Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 21 Medi 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


89(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd - Gohiriwyd o 14 Medi

(45 munud)

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog.

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg - Gohiriwyd o 14 Medi

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Gohiriwyd tan 28 Medi

 

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd - Gohiriwyd tan 28 Medi

 

</AI5>

<AI6>

5       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Weinidog yr Economi

Hefin David (Caerffili): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Bearmach Cyf. ar Ystâd Ddiwydiannol Pantglas, Bedwas, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?

Gofyn i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon

Heledd Fychan (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai?

</AI6>

<AI7>

6       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Tlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd - Gohiriwyd o 14 Medi

(60 munud)

NDM8072 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd, a osodwyd ar 18 Mai 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Awst 2022.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Ynni adnewyddadwy yng Nghymru - Gohiriwyd o 14 Medi - Tynnwyd yn ôl

(0 munud)

Tynnwyd y cynnig yn ôl

</AI9>

<AI10>

9       Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad cydymffurfio ar gyfer y cyfnod 2021-22 - Gohiriwyd tan 28 Medi

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Adolygiad o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 - Gohiriwyd tan 12 Hydref

 

</AI11>

<AI12>

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

(5 munud)

NNDM8075 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.22(i) er mwyn caniatáu i’r gwelliannau a gyflwynwyd i NDM8073 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 21 Medi 2022.

</AI12>

<AI13>

11    Dadl Plaid Cymru - Costau byw - Gohiriwyd o 14 Medi

(60 munud)

NDM8073 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod y cynnydd presennol mewn biliau ynni yn anghynaladwy ac y bydd yn achosi straen ariannol a chaledi i aelwydydd, busnesau, a grwpiau cymunedol, tra bod cwmnïau tanwydd ffosil yn gwneud yr elw mwyaf erioed.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mesurau argyfwng costau byw ehangach ar unwaith, fel:

a. haneru prisiau trenau a gosod cap ar brisiau bws;

b. gweithio gydag awdurdodau lleol i glirio rhai o'r ôl-ddyledion treth gyngor sylweddol sydd wedi cronni yn ystod cyfnod y pandemig; 

c. rhewi rhent; 

d. ailgyflwyno mesurau i wahardd troi allan yn y gaeaf; 

e. ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd;

f. cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysgol i £45.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ardoll ar elw ynni.

Yn croesawu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â chostau byw, gan gynnwys:

a) gwarant pris ynni, sy’n rhoi cap ar gostau ynni;

b) taliadau costau byw i bob ar fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth gwerth £650;

c) taliad costau byw anabledd gwerth £150;

d) gostyngiadau misol mewn biliau tanwydd o fis Hydref ymlaen gwerth £400;

e) cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i £9.50 yr awr;

f) gostyniad yn y gyfradd taper credyd cynhwysol;

g) rhewi’r dreth tanwydd;

h) rhewi ffi'r drwydded teledu am dwy flynedd;

i) taliadau tanwydd gaeaf ychwanegol.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi pobl, busnesau a'r trydydd sector i wynebu'r heriau sydd i ddod.

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi’r canlynol yn ei le:

Yn credu bod Llywodraeth y DU yn methu â dirnad difrifoldeb yr argyfwng hwn, ac y byddai’n caniatáu i bobl sy’n gweithio dalu cost cap ynni yn hytrach na threthu elw digynsail cynhyrchwyr nwy ac olew.

Yn croesawu’r £1.6bn a fuddsoddir yn benodol i helpu gyda chostau byw a’r rhaglenni cyffredinol sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl a ddarperir gan Lywodraeth Cymru y flwyddyn ariannol hon, gan gynnwys:

a) ehangu Taliad Cymorth Tanwydd y Gaeaf o £200 ar gyfer 400,000 o aelwydydd y gaeaf hwn;

b) dechrau cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd o fis Medi 2022;

c) buddsoddi £51.6m yn y Gronfa Cymorth Dewisol i arbed pobl sydd mewn argyfwng ariannol difrifol;

d) £4m ar gyfer talebau tanwydd i helpu pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a banc tanwydd i bobl nad ydynt ar y prif gyflenwad nwy.

</AI13>

<AI14>

12    Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig - Gohiriwyd tan 28 Medi

 

</AI14>

<AI15>

13    Cyfnod Pleidleisio

 

</AI15>

<AI16>

14    Dadl Fer - Gohiriwyd o 14 Medi

(30 munud)

NDM8070 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Darparu prydau ysgol am ddim i bawb: yr heriau a'r cyfleoedd.

</AI16>

<AI17>

15    Dadl Fer (Joel James (Canol De Cymru)) - Gohiriwyd tan 28 Medi

 

</AI17>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 27 Medi 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>